Canolbwynt therapiwtig gydag ymagwedd hyblyg i gefnogi plant a theuluoedd ar eu taith iachâd. 

Credwn fod y plentyn a'i berthnasoedd yn ganolog i'r broses iacháu.

Rydym yn gweithio gyda’r plentyn a’i bentref, gan gryfhau’r berthynas rhwng plant, pobl ifanc a’r oedolion pwysig yn eu bywydau. 

Ein Gwasanaethau

Therapïau

Mae Popeth yn gweithredu Seicotherapi Datblygiadol Dyadig, Theraplay, a Therapi Chwarae Creadigol Systemig, gan addasu ein dulliau i gryfhau perthnasoedd rhwng plant a'u gofalwyr yn seiliedig ar anghenion therapiwtig unigryw pob teulu.

Asesiadau

Rydym yn darparu asesiadau trylwyr mewn Ymlyniad Brodyr a Chwiorydd (Sibling Attachment), ailuno NSPCC (NSPCC reunification), a rhianta CUBAS, pob un wedi'i seilio ar fframweithiau cynhwysfawr a thrylwyr. Gall ein hasesiadau drosglwyddo'n ddi-dor i ymyriadau therapiwtig wedi'u teilwra i gefnogi anghenion pob teulu.

Hyfforddiant

Rydym yn deall pwysigrwydd cydweithio gyda phob oedolyn gofalgar ym mywyd pob plentyn. Trwy ein rhaglenni hyfforddi amrywiol, ein nod yw grymuso a chefnogi'r "pentref" cyfan o amgylch pob plentyn.

Ein Gwerthoedd

Calon

Wrth galon Popeth mae'r plentyn. Mae anghenion therapiwtig ein plant yn cael eu cadw’n ganolog i’r broses. 

Plentyn

Yn Popeth mae ein hymarfer yn seiliedig ar ymchwil datblygiad plant â sylfaen dystiolaeth.  

Pentref

Fel y dywed yr hen ddihareb, mae'n cymryd pentref i fagu plentyn. Rydym yn gofalu am bob plentyn trwy ofalu am eu pentref hefyd. 

Cenedl

Mae gennym ni galon dros blant ledled Cymru, llawer ohonynt na fyddwn byth yn cael eu gweld.