Grŵp Diddordeb Therapïau Creadigol

Rydym yn frwd dros feithrin cysylltiad a chydweithio ymhlith therapyddion ac ymarferwyr ym maes therapïau creadigol. Ein nod yw adeiladu rhwydwaith cefnogol o fewn y byd therapiwtig, yn enwedig ar gyfer y rhai a all weithiau deimlo'n ynysig yn eu hymarfer. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r rôl y gall therapïau creadigol ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles emosiynol plant ledled Cymru.

Mae’r Grŵp Diddordeb yn fan i gysylltu, trafod ac archwilio’r ystod o therapïau creadigol rydym yn eu cynrychioli. Mae'n lle i rannu gwybodaeth, offer a mewnwelediadau sy'n cyfrannu at dwf proffesiynol, gan gynnwys llyfrau, erthyglau a phodlediadau a argymhellir. Rydym yn croesawu pawb i ddod â’u harbenigedd a’u diddordebau unigryw i’r gymuned hon.

Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o'r gymuned hon, ymunwch â'n rhestr e-bost i gael y wybodaeth ddiweddaraf.